200 metr

Gadael blociau cychwyn mewn cymal o'r ras 200 metr yng Ngemau Olympaidd 2012

Mae'r 200 metr yn gamp athletau lle fydd cystadleuwyr yn rhedeg ras sbrint. Mae'r ras yn cael ei rhedeg ar drac awyr agored gan ddechrau ar y gromlin ac yn dod i ben ar yr hyd syth olaf[1]. Mae angen cyfuniad o dechnegau i redeg y ras yn llwyddiannus. Mae'r 200m yn rhoi mwy o bwyslais ar ddygnwch cyflymder na phellteroedd sbrint byrrach wrth i athletwyr ddibynnu ar systemau ynni gwahanol yn ystod y sbrint hirach.

  1. IAAF 200 M How it works adalwyd 24 awst 2018

Developed by StudentB